Ymarfer Nesaf

  • Clwb 3ydd o Fai. Ymarfer olaf y tymor.

Tuesday 26 April 2011

CYCHWYN A GORFFEN Y TYMOR AR Y BRIG

ENILLWYR TWRNAMENT LLANIDLOES CYCHWYN MEDI - ENILLWYR TWRNAMENT LLANELLI MIS EBRILL.



Monday 25 April 2011

Sunday 10 October 2010

Pwllheli 50 - 15 Llangefni

Da iawn hogia.

Diolch i Ifan, Cliff, Ellis a Wil am helpu, a chwarae i Llangefni heddiw.

Llongyfarchiadau hefyd i Cliff am ei 'hatrick' o ceisiadau, Sef un i Llangefni a dwy i Bwllheli.  Sgoriodd ei ceisiadau i Pwllheli drwy chwarae yn canolwr am y tro gyntaf. Jamie Roberts newydd efallai!

Sgorwyr eraill:-
  • Arwyn
  • M Ellis
  • R Ellis
  • Ieuan
  • Harri
  • Owain
  • Ifan
  • Huw

Sunday 3 October 2010

Llandudno 5 - 40 Pwllheli

Ar ddiwrnod gwlyb gyda pêl llithryg trechodd tim dan 11 Pwllheli tim dan 11 Llandudno.


Roedd y gêm yn un agos iawn yn ystod yr hanner gyntaf, gyda Ifan, Ieuan, Sion a Wil yn chwarae 5 munud yr un i tim Llandudno.

Yn hanner cyntaf y gêm cafodd Pwllheli un gais wrth i Huw roi pwysau ar gefnwyr Llandudno a manteisiodd Arwyn ar gamgymeriad y gwrthwynebwyr a chael cais hela gipiad (interception try).

Cychwynnodd Pwllheli yr ail hanner gyda’r bwriad o ledu’r bêl. Sgoriodd Arwyn cais gwych ar ôl i’r bêl gael ei phasio lawr y linell drwy ddwylo’r cefnwyr i gyd.

Huw sgoriodd yr tryddyd a’r pedwaredd cais. Y gyntaf yn dod trwy redeg yn gryf lawr canol y cae, a’r ail eto wrth redeg fel sliwan trwy’r canol.

Wil gafodd y pumed gyda rhedeg cryf pwerus hefo’r amddifynwyr yn bownsio oddi wrtho.

Daeth y chweched cais yn dilyn rhediad cryf Ieuan yn torri trwy’r amddifyn.

Gyda Pwllheli yn edrych yn beryglus trwy’r amser, a’r blaenwyr yn dilyn esiampl Ifan gan beidio cymryd cam yn ôl. Cafodd Sion y bêl a’i phasio allan i Harri â oedd wedi rhoi ei hun mewn lle gwag allan ar yr asgell, a rhedodd rownd yr amdiffyn i lorio’r bêl am gais.

Cwblhaodd Ieuan y sgorio i Bwllheli, gan iddo unwaith eto ddangos ei ddawn i redeg yn gyflym ac yn syth.

Perfformiaid da i’r tim yn dilyn saib ers y gêm ddiwethaf. Aelodau eraill, y tim ddaru gyfrannu heddiw oedd Owain, Morgan, Owain Rhys, Euros, Iolo, Llew ac Ellis.

Ceisiadau:-
  • Arwyn x 2
  • Huw x 2
  • Ieuan x 2
  • Wil
  • Harri

Friday 1 October 2010

Llongyfarchiadau

Da iawn i'r hogia sydd wedi cael eu dewis i sgwad Eryri :-
  • Ieuan
  • Gethin
  • Wil
  • Ifan
  • Cliff
  • Iolo
  • Morgan
  • Harri
  • Owain
Anlwcus iawn Huw, er iti ymdrechu yn wych ar y noson.