Ymarfer Nesaf

  • Clwb 3ydd o Fai. Ymarfer olaf y tymor.

Monday 20 September 2010

Sunday 12 September 2010

Llwyddiant yn Llanidloes

Mae timau yn tyfu i fyny ac yn dod i’w hoed mewn twrnamentau a dyna yn sicr fu hanes Tim Rygbi dan 11 Pwllheli ar ddechrau’r tymor hwn. Yn dilyn perfformiadau da mewn twrnament yn Llanelli fis Ebrill diwethaf, llwyddodd y bechgyn i ennill twrnament oedd yn cynnwys naw o dimau yn Llanidloes ar 12fed Medi. Trechodd Pwllheli dimau Crymych a’r Wyddgrug 14-7 yr unmewn gemau caled cyn dod i frig eu grwp wrth guro Gwernyfed 21-14. Dangosodd yr hogiau eu cymeriad wrth daclo a rycio’n galed a chroesi’r llinell gyda phenderfyniad bob tro roedd honno o fewn cyrraedd – a Gethin yn arwain y sgorio gyda phedwar cais. Yn y gêm derfynol cyrhaeddodd Pwllheli yr uchelfannau wrth drechu Aberhonddu 14-0 drwy geisiau gan Ifan a Ieuan.

Llongyfarchion i'r sgwad.
(adroddiad gan Myrddin)



Lluniau ychwanegol i ddilyn.
(lluniau gan Eifion)

  • Pwllheli 14 - 7 Crymych (Ceisiadau: Gethin 2, Trosiad: Morgan 2)
  • Pwllheli 12 - 7 Wyddgrug (Ceisiadau: Gethin, Ifan. Trosiad: Sion)
  • Pwllheli 21 - 14 Gwernyfed (Ceisiadau: Ellis BFf, Gethin, Ieuan. Trosiad: Morgan 3)

Y Rownd Derfynol

Pwllheli 14 - 0 Aberhonddu (Ceisiadau: Ifan, Ieuan. Trosiad: Morgan 2)

TIM DAN 9 ag 13


Gwnaeth Tim dan 9 Pwllheli yn ardderchog hefyd wrth gyrraedd y rownd derfynol a cholli o gais i ddim yn erbyn Crymych. Chwaraeodd Tim dan 13 Pwllheli yn yr un twrnament gyda mesur o lwyddiant yn ogystal.

Tuesday 7 September 2010

Sgwad Twrnament Llanidloes

Gethin
Owain ap Myrddin
Iolo
Sion Eccles
Morgan Ellis Griffith
Arwyn
Morgan
Harri
Wil
Ifan
Cliff
Huw
Ieuan
Robert Ellis Thomas

Sunday 5 September 2010

Llandudno 10 - Pwllheli 35

Da iawn hogia, cychwyn gwych i'r tymor.

Adroddiad i ddilyn.

Ceisiadau:-

  • Owain
  • Ifan
  • Sion
  • Huw
  • Gethin
  • Ellis
  • Arwyn

Sion hefyd yn cael cais wrth chwarae i tim Llandudno.