Ymarfer Nesaf

  • Clwb 3ydd o Fai. Ymarfer olaf y tymor.

Tuesday 17 August 2010

TYMOR 2010/11 SEASON

Anwwyl rieni,

Dim ond nodyn i'ch hysbysu y bydd ambell newidiadau yn digwydd yn ystod tymor 2010/11

Prif Newidiadau Chwarae

  • Bydd tim dan 11eg nawr gyda 12 yn chwarae, sef 5 blaenwr a 7 o gefnwyr.

  • Bydd maint y cae yn fwy- gem yn cael ei chwarae rhwng 22 medr pob ochr o'r cae.



Newidiadau Gweinyddol

Rwyf wedi penderfynu defnyddio system 'Teamer' http://www.teamer.net/ i gysylltu a rhieni eleni, sy'n system awtomatig sy'n gyrru text i ffon symudol a neges trwy ebost. Rwyf wedi defnyddio'r system yma dros yr haf gyda tim dan 13 Gogledd Gorllewin Cymru ac mae'n effeithiol ac yn llwyddianus iawn.

Byddaf hefyd yn rhoi unrhyw newyddion ar y safle we http://pwllheli.blogspot.com/ a http://pwllhelis.blogspot.com/ yn saesneg

Ni all y clwb na'r hyffoddwyr gymryd cyfrifoldeb am unrhyw newidiadau i strwythur y tymor, sef gemau yn cael eu gohurio ayb. Cyfrifoldeb y rhieni yw cadarnhau hefo'r rheolwr am unrhyw fater, os nad ydynt yn deall beth sydd yn digwydd.

Rheolwr y tim fydd yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth arbennig i'r rhieni

Croeso i unrhyw riant gysylltu a'r hyfforddwyr neu rhelowr y tim.

Newidiadau Hyfforddi/Rheoli

Rwyf yn parhau i fod yn hyfforddwr y tim gyda Dafydd Myrddin yn fy nghynorthwyo, pan mae o ar gael. Prif nod Dafydd fydd codi lefel sgiliau y plant sydd angen datblygu rhinweddau arbennig.

Eifion Owen - dyfarnwr

Mis Medi bydd polisi gwyno ffurfiol gyda proses apel annibynnol yn cael ei sefydlu gan y clwb, a fydd yn gwarchod buddiannau'r plant a'r hyfforddwyr. Disgwylir hefyd i rieni, plant a'r hyforddwyr ddilyn cod ymddygiad Undeb Rygbi Cymru (WRU Pathway)

Bydd y clwb hefyd yn datblygu Cyfansoddiad Ieuenctid (rheolau gweinyddol) a fydd wedi eu modelu ar awgrymiadau Undeb Rygbi Cymru.

Sori bod y nodyn yn hirwyntog ond mae'n bwysig bod popeth yn ei le ar gyfer sicrhau cychwyn positif i'r tymor newydd. Gobeithiaf y bydd y trefniadau/fframwaith yma yn hwyluso'r ffordd y mae'r Clwb yn cyfathrebu gyda'r rhieni.

Diolch am eich cefnogaeth. Jac

Safle we Clwb Rygbi Pwllheli http://pwllhelirfc.com/cymraeg/dyfodol.htm


Monday 9 August 2010

Gemau Tymor 2010/10 Tim Dan 11 - Under 11 Fixtures

05/09/10 Llandudno (Ffwrdd/Away)

12/09/10 Llanidloes (Ffwrdd/Away)

10/10/10 Llangefni (Adref/Home)

17/10/10 Caernarfon (Adref/Home)

24/10/10 Nant Conwy (Adref/Home)

07/11/10 Bangor (Adref/Home)

14/11/10 Bae Colwyn (Adref/Home)